Anastacia a Natasha
Oedd Anastacia Ackers ac Natasha Borton yn gweithio ar gyfres o sesiynau ysgrifennu creadigol a pherfformiadau gair llafar oedd yn pontio'r cenedlaethau, a hynny am yr amrywiaeth yn y mannau gwyrdd ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Tynnwyd sylw prosiect Our Hidden Garden at erddi muriog, caeau pêl-droed, ardaloedd o laswellt, blodau’n meddiannu strydoedd segur, gerddi cymunedol, a’r tirweddau hardd o amgylch Wrecsam. Trwy baru pobl ifanc â phobl hŷn sy’n teimlo’n ynysig, roedd nhw yn gobeithio pontio’r bwlch yn lleol yn y ddarpariaeth o fynegiant creadigol a darparu prosiect creadigol y gall teuluoedd weithio arno gyda’i gilydd. Roedd yna sesiynau wyneb yn wyneb, yn ogystal ag adnoddau ar-lein, i ysbrydoli’r ffordd rydym yn edrych ar fannau naturiol, ond hefyd i ddarparu cyfleoedd ac iaith ar gyfer sut rydym yn siarad am fannau naturiol gyda’n gilydd yn ein cymuned.
Daeth y prosiect i ben drwy greu blodeugerdd ddigidol o weithiau ysgrifennu, yn ogystal â ffilmiau byr gan bob cyfranogwr ar ei ofod dewisol.
Mae Anastacia Ackers yn awdur, gwneuthurwr theatr a hwylusydd o ogledd-ddwyrain Cymru. Ar hyn o bryd, hi yw cadeirydd panel TEAM National Theatre Wales, ac mae wedi gweithio fel rhan o brosiect TEAM Wrecsam ers 2019. Mae Natasha Borton yn hwylusydd gweithdai creadigol amlddisgyblaethol sy’n defnyddio barddoniaeth, y gair llafar, theatr a cherddoriaeth yn ei gwaith ac wrth hwyluso ar draws y DU ac yn credu yng ngrym y celfyddydau i gysylltu pobl drwy brofiadau bywyd.