Bethany Handley a Megan Angharad Hunter
Cyflwynodd Bethany Handley a Megan Angharad Hunter brosiect o’r enw Write Back/Grym Geiriau a oedd yn ymgysylltu â grŵp o awduron 18 i 25 oed sy’n nodi eu bod yn anabl a/neu’n Fyddar a/neu â salwch cronig. Dros encil deuddydd, tairieithog (Cymraeg, Saesneg a BSL) yn Nhŷ Newydd, daeth yr unigolion ifanc at ei gilydd i archwilio eu profiadau a’u cydberthynas â byd natur trwy weithdai ysgrifennu creadigol, yoga dewisol, myfyrio, a gweithgareddau awyr agored a oedd yn canolbwyntio ar ofynion mynediad y cyfranogwyr. Nod y prosiect hwn yw cryfhau lleisiau unigolion ifanc o Gymru sy'n nodi eu bod yn Anabl a/neu’n Fyddar a/neu gyda salwch cronig.
Mae'r gwaith ysgrifennu wedi'i gasglu erbyn hyn a bydd yn ymddangos yn rhifyn cyntaf cylchgrawn llenyddol dwyieithog, gyda'r nod o gynyddu cynrychiolaeth a meithrin lleisiau pobl Anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae Bethany Handley yn awdur Anabl 22 oed o Gymru sy’n byw yng Nghaerdydd. Yn fwyaf nodedig, mae ei barddoniaeth wedi cael ei chyhoeddi yn y cylchgrawn Poetry, ac mae’n rhan o gynllun Lleisiau nas Clywir Theatr y Sherman ar gyfer llenorion o Gymru sy’n cael eu tangynrychioli. O Ben-y-groes, Dyffryn Nantlle, y daw awdur arobryn Megan Angharad Hunter yn wreiddiol, ond ar hyn o bryd mae'n cwblhau ei BA yn y Gymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.