Taylor Edmonds a Nasia Sarwar-Skuse
Dyfeisiodd a chyd-gyflawnodd Taylor Edmonds a Nasia Sarwar-Skuse brosiect o'r enw The Long View. Mae'n cymryd ei enw o'r syniad bod edrych allan i’r gorwel a thu hwnt yn fuddiol i’n llesiant. Cyd-gyflwynir y prosiect gan Taylor Edmonds a Nasia Sarwar-Skuse. Mae’n cyfuno ymweliadau corfforol â mannau natur yng Nghaerdydd a’r ardaloedd cyfagos, gyda gweithgareddau ysgrifennu creadigol ac adrodd straeon i greu ymdeimlad o berthyn i gyfranogwyr a'u hannog i hawlio gofod yn eu hamgylchedd.
Mae llawer o dystiolaeth bod menywod o liw yn teimlo eu bod wedi'u cau allan rhag cael mynediad at natur a thirwedd, yn enwedig menywod sydd wedi gorfod gadael eu mamwlad a sefydlu cartref newydd. Anogodd y prosiect y cyfranogwyr i ysgrifennu amdanynt eu hunain yn eu hamgylchedd mewn gofodau lle maent wedi cael eu cau allan yn hanesyddol, trwy archwilio eu hymdeimlad o berthyn, cymuned, a'u cysylltiad â'r amgylchedd naturiol.
Yn ystod y prosiect, buont yn archwilio lleoliadau lleol megis parciau neu draethau, yna aethant ati i greu cownter gweledol, map personol ac ymateb creadigol trwy adrodd straeon ar lafar ac ysgrifennu darnau creadigol, yn ogystal â dogfennu'r daith. Daethpwyd â'r prosiect i ben gyda ffilm gerdd a ddogfennwyd ac a olygwyd gan y grŵp.
Oedd Taylor Edmonds Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Mae hi wedi bod yn gweithio fel awdur a hwylusydd creadigol yng Nghymru ers dros dair blynedd. Yn 2020, derbyniodd un o Wobrau Rising Stars Llenyddiaeth Cymru. Mae Nasia Sarwar-Skuse yn awdur ac yn ymgeisydd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae wedi bod yn gweithio fel hwylusydd ysgrifennu creadigol ers tair blynedd ac mae’n frwd dros ddilysrwydd mewn llenyddiaeth gan leisiau ethnig a’i groesdoriadau â diaspora, rhywedd a chof.