Justin Teddy Cliffe
Gwneuthurwr theatr ac artist yw Justin sydd wedi'i leoli yng Nghasnewydd. Mae’n creu gwaith abswrdaidd, digrif a chras sy’n archwilio'r profiad dynol, iechyd meddwl ac athronyddiaeth boblogaidd trwy fath cyfoes o glownio isel ael. Treuliodd Justin ei gyfnod preswyl mewn parcdir bach yn agos at ei gartref. Roedd eisiau archwilio'r lle hwn gan ei fod yn teimlo ei fod yn perthyn iddo ond ei fod yn ei rannu â phobl eraill. Treuliodd ei gyfnod preswyl yn y parc er mwyn archwilio cymunedolrwydd a, thrwy ei gydnabod, archwiliodd rym, gwerth, perchnogaeth ac ymddiriedaeth.
Yr hyn a ddysgodd
Dechreuodd ei breswyliad drwy dreulio amser yn y parc yn cysylltu â'r lleoliad a’i drigolion, yn arsylwi’r defodau dyddiol, ac yn ceisio darganfod sut oedd pobl yn gweld y parc fel rhan o’u bywydau. Daeth â’r prosiect i ben drwy ailfapio’r parc a chynnig rhodd chwareus i’r gymuned ar ffurf gosodiad.
Bwriad gwreiddiol Justin oedd ymddwyn fel clown yn y parc, gan ryngweithio â’r cyhoedd i ddefnyddio'r haniaethol a’r swreal i archwilio’r gofod trothwyol rhwng ffuglen a realiti lle gallent archwilio themâu o amgylch y parc yn ymwneud ag awdurdod a pherchnogaeth. Fodd bynnag, pan aeth ati i wneud hynny, nid oedd yn teimlo'n iawn gan ei fod yn teimlo nad oedd y parc yn fan diogel. Wrth fyfyrio, dywedodd nad yw'n teimlo'r rhwystr hwnnw pan fydd yn perfformio ar y stryd, ond nad oedd yn teimlo bod y parc yn cael ei rannu yn yr un ffordd a'r stryd.
“Mae’r parc yn teimlo’n gymunol, nid yw’n teimlo fel ei fod yn eiddo i neb – mae ganddo dymor o'r dydd. Caiff bore yn y parc ei gyfarch gan gorws o gerddwyr cŵn, yna daw'r plant ysgol drwodd am 8am. Yna mae yna fwlch – weithiau bydd pobl yn dod i gymdeithasu yn ystod y dydd neu ysmygu yn ystod eu hamser cinio. Yna yn y nos, daw'r bobl ifanc yn eu harddegau a'u beiciau i gymryd drosodd. Mae'n ofod byrhoedlog iawn.”
Trwy weithio gyda'i fentor Amy Pennington, ail-fframiodd Justin yr astudiaeth i archwilio sut y gallai ddefnyddio'r profiad i weithio'n wahanol, gan ddatblygu ymddiriedaeth, gweithio gyda gonestrwydd, cael sgyrsiau, archwilio bod yn fewnddrychol ac yn allddrychol, cael ei arwain gan reddf, a gwrando ac ymateb. Siaradodd â phobl yn ystod ei amser yn y parc, a dywedodd rhai:
- Nid oedd Rowan yn cysgu ar y stryd, gwersyllwr gwyllt oedd ef
- Dylai cŵn allu gwneud yr hyn a fynnant
- Mae yna syniad gwallgof nad ydyn ni'n rhan o'r ddaear
- Mae'n debyg bod y gwiwerod yn cynnal cyfarfodydd cyfrinachol i drafod sut i gael gwared â phobl o'r parc
- Mae'r parc fel hyn gan fod yna blant yn dod o gartrefi drwg
- Mae pobl yn dod yma bob bore i fynd â'u cŵn am dro, hyd yn oed os yw'n bwrw glaw
- Ni ddylai'r maes chwarae fod mewn caets
- Yn ystod y cyfnod clo, fe achubodd y parc fy mywyd
- Rwy'n teimlo fel mai ngardd i yw'r parc
Gwelodd fachgen yn taflu nwdls ar y ddaear ac roedd yn ei boeni nad oedd wedi bod yn ddigon dewr i fynd i ddweud wrtho am eu codi. Gwnaeth iddo sylweddoli bod pobl wedi effeithio arno, a'r ffordd y maent yn ymddwyn mewn mannau cyhoeddus. Roedd yn ei atgoffa o GoatMan, Tom Thwaites, sy'n byw fel gafr er mwyn ceisio meddwl y tu allan i bersbectif y cyflwr dynol, felly penderfynodd Justin fyw fel plentyn yn y parc am ddiwrnod. Nid aeth pethau’n dda – hyd nes iddo gwrdd â Boris, y plentyn doeth 9 mlwydd oed.
Roedd Boris wedi symud i fyw yno o Fwlgaria yn ystod y cyfnod clo a dywedodd fod y parc wedi bod yn bwynt mynediad hanfodol iddo integreiddio a chwrdd â phobl eraill. Disgrifiodd y parc fel rhan estynedig o'i gorff: “Roedd rhan i’w ymennydd feddwl a myfyrio, roedd rhan iddo allu chwarae a theimlo’n fyw, roedd yna balas i weithredu, y cae pêl-droed yn ei goesau oedd hwn a’r bryniau y gallai redeg i fyny ac i lawr, roedd yna le yn ei berfeddion hefyd ar gyfer y cerrig beddau a marwolaeth.” Dychmygodd Boris goeden siarad a oedd yn rhagweld y dyfodol yn rhan o'r parc.
Cafodd Justin ei syfrdanu gan yr ail-ddychmygu hwn ac aeth ati i greu hunaniaeth newydd ar gyfer y parc yn seiliedig ar y syniad ei fod yn fod byw. Creodd osodiad dros dro i ddechrau o'r goeden ffortiwn fel ffordd o roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned yn y parc, gan rannu safbwyntiau cadarnhaol o'r hyn y gallent ei wneud â'u dyfodol.
Yr hyn y gallwn ei ddysgu o hyn
Caiff mannau gwyrdd trefol yn aml eu gweld gan awdurdodau fel mannau cyhoeddus, sy'n rhodd i drigolion. Mae preswylwyr yn eu gweld fel rhywbeth cymunol i’w defnyddio, ond nid yw hynny’n aml yn ymestyn i benderfyniadau a wneir ynghylch sut y cânt eu dylunio ac ar gyfer beth y cânt eu defnyddio. Caiff y penderfyniadau hyn eu gwneud fel arfer gan berchennog y gofod, a rhaid i breswylwyr gydymffurfio â'r rheolau sy'n eu llywodraethu. O ystyried natur fyrhoedlog y defnydd mewn parciau lleol, mae angen gwell mecanwaith ar gyfer ymgynghori â phobl ynghylch eu defnydd. Gallai proses fwy democrataidd o greu rheolau gynnig ymdeimlad dyfnach o berchnogaeth a chroeso i’r gofod. Gall hyn ymestyn i'r ffordd y cânt eu dylunio, gan roi ystyriaeth arbennig i'r gofod fel man sy'n cefnogi'r ‘corff’ cyfan o anghenion cymunedol.