Fe wnaeth Natur a Ni gynnwys pobl Cymru mewn sgwrs genedlaethol am yr amgylchedd naturiol.
Y nod oedd datblygu gweledigaeth a rennir am yr amgylchedd naturiol ar gyfer 2050 ac ystyried y newidiadau sydd angen i ni eu gwneud wrth baratoi ar gyfer 2030 a 2050, fel unigolion ac fel gwlad.
Mae Natur a Ni eisiau annog pobl i feddwl am yr amgylchedd yr hoffen nhw ei weld yn y dyfodol a'i adael ar ôl ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydyn ni eisiau gwybod sut mae pobl yn teimlo am natur a sut yr hoffen nhw i berthynas cymdeithas â natur newid. Rydym ni hefyd eisiau i bobl feddwl am y newidiadau y gall pob un ohonom eu mabwysiadu i warchod natur a'r amgylchedd.
Cafodd ei lansio ar 17 Chwefror 2022. Yn y cam cyntaf hyd at fis Mai, gallai pobl ledled Cymru gymryd rhan ar-lein, drwy gwblhau arolwg Natur a Ni, ymuno â gweminarau rhyngweithiol, grwpiau ffocws neu weithdai rhanddeiliaid.
Mae’r tîm y tu ôl i Natur a Ni wedi adolygu canfyddiadau’r cam cyntaf hwn ac wedi paratoi dau adroddiad sy’n esbonio’r ffordd yr ymgymerwyd â’r prosiect ac sy’n rhoi trosolwg manwl o ganfyddiadau’r sgwrs genedlaethol.
Dysgwch fwy am ganfyddiadau cam cyntaf Natur a Ni.
Nod Cam 2 Natur a Ni oedd mynd i’r afael â’r bylchau yn y cynulleidfaoedd a gymerodd ran yng ngham 1 ac fe’i cynhaliwyd yn ystod haf a hydref 2022.
Dysgwch fwy am ganfyddiadau ail gam Natur a Ni.
Sefydlwyd Cynulliad Dinasyddion i ddatblygu'r weledigaeth a rennir ar gyfer amgylchedd naturiol Cymru o'r canfyddiadau hyn a gwaith ehangach. Roedd Cynulliad y Dinasyddion yn cynnwys 50 o unigolion o bob rhan o Gymru a chyfarfu dros dair sesiwn yn ystod Chwefror a Mawrth 2023.
Fideo ymgyrch Natur a Ni
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hwyluso’r sgwrs genedlaethol. Ni yw prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd a’i adnoddau naturiol yng Nghymru, o fewn y cyd-destun lleol, cenedlaethol a byd-eang. Rydym eisiau clywed gan bobl Cymru am eu barn ar ddyfodol ein hamgylchedd naturiol, fel y gallwn helpu i ymhelaethu ar eich barn, ac adeiladu gweledigaeth a rennir ar gyfer Cymru.